DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Hysbysiad Blaenorol) a Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2023

DYDDIAD

26 Hydref 2023

GAN

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

 

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnodd yr Arglwydd Benyon, Gweinidog dros Fioddiogelwch, Materion Morol a Gwledig yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2023.

 

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS uchod drwy arfer y pwerau a roddir o dan Reoliad (EU) 2016/2031, y Rheoliadau Iechyd Planhigion, a Rheoliad (EU) 2017/625, y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol.

 

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliad (EU) 2019/2072, y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol, at sawl diben. Yn bennaf, mae'r diwygiadau yn dadreoleiddio ac yn cynnwys plâu amrywiol ar y rhestrau Plâu Cwarantin a Phlâu Cwarantin Dros Dro. Yn ogystal, bydd y diwygiadau yn cyflwyno diwygiad i alluogi darpariaethau o fewn Model Gweithredu Targed y Ffin (TOM).

 

Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 26 Hydref 2023. Bydd mesurau brys yn y Rheoliadau yn dod i rym ar 17 Tachwedd a 24 Tachwedd 2023 a bydd mesurau nad ydynt yn rhai brys yn dod i rym ar 2 Mai 2024.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Bydd yr Aelodau yn dymuno nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Diben y diwygiadau

 

Diben y diwygiadau yw diweddaru agweddau ar y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (PCR) i gyflwyno'r newidiadau canlynol:

·         Dadreoleiddio plâu cwarantin (QPs) penodol Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y Grŵp Risg Iechyd Planhigion (PHRG) fel rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin.

·         Ychwanegu plâu cwarantin newydd Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y PHRG fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin.

·         Ychwanegu plâu cwarantin dros dro (PQPs) newydd Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y PHRG fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin ar sail asesiad dros dro.

·         Diweddaru gofynion mewnforio i ystyried newidiadau yn y deunydd a fasnachwyd.

·         Cyflwyno newid a gollwyd mewn OS blaenorol.

·         Ffurfioli hawddfraint er mwyn sicrhau bod gofynion mewnforio yn gweithio'n ymarferol.

·         Cynnwys rhanddirymiad a gafodd ei gario drosodd fel cyfraith yr UE a ddargedwir ond sydd bellach wedi dod i ben ac sydd angen ei gynnwys yn neddfwriaeth Prydain Fawr.

 

Yn ogystal, bydd y diwygiadau yn cyflwyno diwygiad i alluogi darpariaethau o fewn Model Gweithredu Targed y Ffin (TOM). Bydd y ddarpariaeth hon yn diwygio'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (OCR) i ddarparu eithriad ar gyfer ffrwythau a llysiau penodol o ran gofynion cyn-hysbysu'r OCR.

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion ynghylch tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma:

 

The Official Controls (Plant Health) (Prior Notification) and Phytosanitary Conditions (Amendment) Regulations 2023 (legislation.gov.uk)

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn mewn perthynas â Chymru ac ar ei rhan, gan fod yr OS yn ymwneud â maes datganoledig, ond, mae'r OS yn gweithredu ar draws Prydain Fawr ac yn cael effaith ar y cyfyngiadau o ran mewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion i Brydain Fawr. Gallai cyflwyno rheoliadau ar wahân yng Nghymru a Lloegr greu baich ychwanegol ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), busnesau, masnachwyr a thyfwyr. Mae rheoleiddio ar lefel Prydain Fawr yn sicrhau llyfr statud cydlynol a chyson, gyda'r rheoliadau ar gael mewn un offeryn heb unrhyw risg o wahaniaeth deddfwriaethol ym Mhrydain Fawr.